Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 2 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Mercher, 23 Hydref 2019

Amser: 09.23 - 11.56
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
5763


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Dai Lloyd AC (Cadeirydd)

Jayne Bryant AC

Angela Burns AC

Helen Mary Jones AC

Lynne Neagle AC

David Rees AC

Tystion:

Vaughan Gething AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Albert Heaney, Llywodraeth Cymru

Frances Duffy, Cyfarwyddwr Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru

Sarah Tyler, Llywodraeth Cymru

Emma Parfitt, Undeb Amddiffyn Meddygol a Deintyddol yr Alban

David Sturgeon, Undeb Amddiffyn Meddygol a Deintyddol yr Alban

Dr Matthew Lee, Yr Undeb Amddiffyn Meddygol

Mary-Lou Nesbitt, Yr Undeb Amddiffyn Meddygol

Staff y Pwyllgor:

Sarah Beasley (Clerc)

Lowri Jones (Dirprwy Glerc)

Amy Clifton (Ymchwilydd)

Philippa Watkins (Ymchwilydd)

Gareth Pembridge (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

</AI1>

<AI2>

2       Gwasanaethau Awtistiaeth yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

2.2 Cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu gwybodaeth ychwanegol am y rhaglen ymgysylltu y mae'r Gweinidog a'i swyddogion yn ei chynnal fel rhan o'r ymgynghoriad a fydd yn llywio'r Cod Ymarfer.

2.3 Cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd i ddarparu gwybodaeth ychwanegol ynghylch cyhoeddi cofrestr meddygon teulu ar gyfer awtistiaeth a chyhoeddi data am amseroedd aros ar gyfer plant a phobl ifanc.

</AI2>

<AI3>

3       Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru): Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

3.1 O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor, fuddiant fel meddyg teulu sydd wedi talu indemniad meddygol yn y gorffennol. Cadarnhaodd nad oes unrhyw fuddiant penodol ar hyn o bryd gan fod indemniad bellach yn cael ei dalu ar lefel practis, ac nid ar lefel bersonol.

3.2 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

3.3 Cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu gwybodaeth ychwanegol ynghylch trosglwyddo asedau.

</AI3>

<AI4>

4       Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru): Sesiwn dystiolaeth gyda Sefydliadau Amddiffyn Meddygol

4.1 O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor, fuddiant.

4.2 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Sefydliadau Amddiffyn Meddygol.

</AI4>

<AI5>

5       Papurau i’w nodi

</AI5>

<AI6>

5.1   Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Pwysau Iach: Cymru Iach

5.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

</AI6>

<AI7>

5.2   Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch hawliau plant yng Nghymru

5.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

</AI7>

<AI8>

6       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y Cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

</AI8>

<AI9>

7       Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru): Trafod y dystiolaeth ac ystyried themâu sy'n codi

7.1 Nododd y Pwyllgor y themâu allweddol i'w cynnwys yn yr adroddiad drafft.

</AI9>

<AI10>

8       Effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn perthynas â Gofalwyr: Trafod yr adroddiad drafft

</AI10>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>